Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
14 Hydref 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6595
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofyn i’r Prif Weinidog
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn y newyddion diweddaraf fod Prif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cais pellach a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar 13 Hydref mewn perthynas â chyfyngiadau teithio?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gwnaeth Lynne Neagle ddatganiad am - Dathlu Erasmus+.
Gwnaeth Janet Finch-Saunders ddatganiad am - Wythnos Wlân 2020.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7304 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.
2. Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 o apwyntiadau meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.
3. Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor meddygol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.
Cyd-gyflwynwyr
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
13 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb
Dechreuodd yr eitem am 16.20
NDM7426 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Awst 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.53 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y cadeirydd dros dro.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Effaith cyfyngiadau lleol coronafeirws ar gyflogwyr
Dechreuodd yr eitem am 17.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7428 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu'r £4 biliwn o gyllid ychwanegol a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael ag effaith pandemig y coronafeirws yng Nghymru.
2. Yn cydnabod effaith andwyol sylweddol cyfyngiadau coronafeirws lleol ar fusnesau a chyflogwyr eraill.
3. Yn nodi'r angen i sicrhau bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dileu'r disgwyliad i gyflogwyr gael gweithle sy'n cydnabod undebau llafur er mwyn cael mynediad at gyllid a grantiau Llywodraeth Cymru;
b) ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd â gwerth trethadwy o fwy na £500,000 ac i landlordiaid nad ydynt yn gallu gosod eiddo masnachol gwag;
c) hepgor y gofyniad buddsoddi o 10 y cant i gael grantiau o dan gam 3 y gronfa cadernid economaidd; a
d) cyhoeddi, yn gyhoeddus, ddata ar nifer y profion COVID-19 positif ar sail ward awdurdod lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n dyrannu dros £4 biliwn i’w hymateb i COVID-19, sy’n swm uwch na’r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.
2. Yn cydnabod mai pecyn gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru o gymorth i fusnesau mewn ymateb i COVID-19 yw’r pecyn gorau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn sy’n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.
3. Yn nodi bod gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru a bod pob busnes sydd wedi derbyn cymorth wedi cytuno i gadw at egwyddorion y contract economaidd.
4. Yn cydnabod y mesurau cynnar, cymesur a thryloyw y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael â’r feirws a’i effeithiau ar yr economi ac ar iechyd y cyhoedd.
5. Yn croesawu cynlluniau gwerth £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cam y gronfa cadernid economaidd (ERF3), sy’n cynnwys £20 miliwn ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.
6. Yn nodi’r ffaith y gall busnesau yng Nghymru sy’n parhau i fasnachu dderbyn cymorth o dan gronfa ymateb cyflym ERF3. Nid dyma’r sefyllfa o ran cymorth i fusnesau mewn ardaloedd lleol yn Lloegr sydd dan gyfyngiadau.
7. Yn teimlo bod penderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu’r cynllun cadw swyddi yn anffodus ac yn credu nad yw’r cynllun cefnogi swyddi yn ddigon o gymhelliant i gyflogwyr o fewn y sectorau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus ar hyn o bryd i gadw gweithwyr yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys cyflogwyr o fewn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.
8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol sydd dan gyfyngiadau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r feirws.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 5 eu dad-ddethol.
Gwelliant 3 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith nad yw cynllun cymorth swyddi Llywodraeth y DU o unrhyw help i nifer fawr o fusnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a busnesau yn y sector gwasanaethau megis lletygarwch a gwallt a harddwch.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
5 |
8 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii) ni ddewiswyd gwelliant 4
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7428 Darren Millar (GorllewinClwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n dyrannu dros £4 biliwn i’w hymateb i COVID-19, sy’n swm uwch na’r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU drwy fformiwla Barnett.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw cynllun cymorth swyddi Llywodraeth y DU o unrhyw help i nifer fawr o fusnesau yng Nghymru, yn enwedig busnesau bach a busnesau yn y sector gwasanaethau megis lletygarwch a gwallt a harddwch.
3. Yn cydnabod mai pecyn gwerth £1.7 biliwn Llywodraeth Cymru o gymorth i fusnesau mewn ymateb i COVID-19 yw’r pecyn gorau unrhyw le yn y DU, gan gynnwys cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn sy’n helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi.
4. Yn nodi bod gwaith teg wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru a bod pob busnes sydd wedi derbyn cymorth wedi cytuno i gadw at egwyddorion y contract economaidd.
5. Yn cydnabod y mesurau cynnar, cymesur a thryloyw y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael â’r feirws a’i effeithiau ar yr economi ac ar iechyd y cyhoedd.
6. Yn croesawu cynlluniau gwerth £140 miliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer trydydd cam y gronfa cadernid economaidd (ERF3), sy’n cynnwys £20 miliwn ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.
7. Yn nodi’r ffaith y gall busnesau yng Nghymru sy’n parhau i fasnachu dderbyn cymorth o dan gronfa ymateb cyflym ERF3. Nid dyma’r sefyllfa o ran cymorth i fusnesau mewn ardaloedd lleol yn Lloegr sydd dan gyfyngiadau.
8. Yn teimlo bod penderfyniad Llywodraeth y DU i derfynu’r cynllun cadw swyddi yn anffodus ac yn credu nad yw’r cynllun cefnogi swyddi yn ddigon o gymhelliant i gyflogwyr o fewn y sectorau sydd yn y sefyllfa fwyaf bregus ar hyn o bryd i gadw gweithwyr yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys cyflogwyr o fewn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.
9. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gyllid ar gyfer ardaloedd lleol sydd dan gyfyngiadau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â’r feirws.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
22 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 18.05, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.13
9 Dadl Fer - Hefin David
Ni chyflwynwyd cynnig.
10 Dadl Fer - Alun Davies - wedi ei gohirio o 7 Hydref 2020
Dechreuodd yr eitem am 18.18
NDM7415 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Y tu hwnt i COVID-19: economi gynaliadwy i Flaenau'r Cymoedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.38
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 20 Hydref 2020